William Jones, Tyddyn Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:23, 11 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Englynwr oedd William Jones, Tyddyn Mawr, Llanaelhaearn yn bennaf. Magwyd ef ym Mryn Gwydion, plwyf Clynnog, a bu farw yn Nerwin Fawr, Bryncir, plwyf Dolbenmaen.

Roedd yn ewythr i Margaret, merch mynydd Ednyfed, Cricieth, ddaeth yn wraig ddioddefus i David Lloyd George.

Ei athro barddol oedd neb llai nag Eben Fardd o Glynnog. Yn wir, William Jones, ar y cyd â Hywel Tudur, ar eu liwt eu hunain, a gyhoeddodd weithiau barddonol Eben Fardd. Dyma fel y dywed Hywel Tudur am William Jones :

Credaf iddo wneud ambell englyn pan yn ieuanc, hwyrach ar gyfer cyfarfodydd llenyddol yng Nghlynnog yn amser Eben Fardd a Dewi Arfon. Yr oedd yn selog gyda'r cyfarfodydd hynny, a pharhaodd yn wir hyd ei ddiwedd i gymryd rhan ynddynt fel llywydd, arweinydd, neu mewn rhyw gysylltiad arall...

Dyma bedwar englyn o eiddo William Jones.


Y Gneuen


Y gneuen fach, mwyach i'm min - hon o'r berth

Wna i'r byd chwerthin ;

Rhy euraidd rodd i'r werin,

Gist ddi-rwyg, Awstaidd ei rhin,


Y Pylor


Peth mân, du-poeth, myn d___l, - a wasgwyd

Mewn gwisgen gleddyfawl ;

I mewn â hwn, - myn ei hawl ;

A rhwyga'n gynddeiriogawl !


Y Ddannodd


Poen a gofid i'm pen a gefais, - bobol ;

Y babi anghofiais ;

Ystod deuddydd eisteddais

Heb ddim tê ! (Englyn 'talcen slip')


Yr Absenwr


Gŵr a'i dafod yn gordyfu ; - swydd

Ei safn yw bradychu ;

Tra'i wyneb yn terwenu :

Gwylia ei dost golyn du.