Janet Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:58, 10 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Janet ('Jenat') Thomas (1813-93) yn un o Fedyddwyr llengar plwyf Llanaelhaearn, ac yn wraig hynod o dduwiol. Roedd yn aelod yng nghapel y Bedyddwyr, Saron, ym mhentref Llanaelhaearn.

Darllenai ei Beibl yn ddyddiol - yng ngolau cannwyll frwyn - ac wedi iddi orffen ei ddarllen, pob gair o'i ddechrau i'w ddiwedd, ddeugain (40) o weithiau erbyn cyrraedd ei phen-blwydd yn saith deg oed (Oed yr Addewid), cyfansoddodd y pennill hwn a'i anfon i'r wasg. Fe'i cyhoeddwyd yn Dysgedydd y Plant. Mai 1884.

Darllen y Beibl

O Feibl fy annwyl Iesu

Ti roddaist y mi hedd,

A llawer o lawenydd

Yr ochor hon i'r bedd ;

'Rwyf wedi ei briodi

Tra yma ar y llawr,

Ac ni wahenir mo'nom

I dragwyddoldeb mawr.