Syr Thomas Parry
Ysgolhaig, beirniad llenyddol a golygydd Cymreig oedd Syr Thomas Parry (4 Awst 1904-22 Ebrill 1985).
Ganed Thomas Parry yn 1904, yn fab i Richard a Jane Parry, Brynawel, Carmel. Roedd yn frawd i Gruffydd Parry, ac yn gefnder i R. Williams Parry a T.H. Parry Williams. Roedd yn ddarlithydd Cymraeg yng Nghaerdydd ac ym Mangor. Roedd hefyd yn Lyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth rhwng 1953 a 1958. Yn ystod ei gyfnod yno, cafodd swydd fel Prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddodd nifer o weithiau yn canolbwyntio ar lenyddiaeth Cymraeg, ac ymroddodd yn llwyr i’w astudiaeth.
Cyfeiriadau
http://yba.llgc.org.uk/cy/c6-PARR-THO-1904.html
https://cy.wikipedia.org.uk/wiki/Thomas_Parry_(ysgolhaig)
[[Categori:Llenorion