Idris Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:01, 6 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Canon Idris Thomas yw'r rheithor a roddodd y gwasanaeth hiraf o ddigon, hyd y gwyddom, i blwyf Llanaelhaearn (dros 30 mlynedd). Brodor o Ddinorwig, Arfon, yn fab i Hugh Thomas, chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, a'i briod, ac yn un o bump o blant - dwy chwaer a thri brawd.

Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1968 hyd 1971, ac fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1971 ac yna'n offeiriad ym 1972. Bu'n Gurad Llanbeblig a'r Waun-fawr 1971-75, ac yna fe'i sefydlwyd yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn ym 1975, a hefyd yn Ficer Clynnog Fawr o 1977.

Bu'n byw am gyfnod byr yn Rheithordy Llanarmon, ond yna daeth i fyw i'r Rheithordy (newydd fel rheithordy) yn Nhrefor. Mae'n briod ag Ann, brodor o Lanbedr Pont Steffan, ac mae iddynt dri mab, Rhodri, Meilir ac Osian.

Ar ôl ymddeol symudodd y teulu i fyw ym mro mebyd Canon Thomas ym mhentref Deiniolen.