T.E. Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:13, 4 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Prifathro Ysgol Gynradd Trefor oedd Thomas Elias Parry, o 1947 hyd 1967, ac yn frodor o bentref Carmel yn Arfon. Cyn hynny roedd yn athro yn ardal Llanberis.

Bu'n ddiwyd ynglŷn ag achos yr Annibynwyr ym Maesyneuadd, yn ddiacon, ymddiriedolwr, ysgrifennydd ac athro Ysgol Sul. Roedd hefyd yn arlunydd talentog a thynnodd luniau cain o nifer o gestyll Cymru ar furiau ei ystafell ddosbarth, yr oll wedi eu gweithio â sialc, ac yn destun edmygedd pawb.

Ymddeolodd yn haf 1967 a symudodd i Fangor i fyw. Bu farw Mehefin 1970.