Thomas Glynn, AS a botanegydd
Roedd Thomas Glynn (c1600-1648) yn fab hynaf Syr William Glynn a'i wraig Jane Griffith - y plentyn hynaf o chwe brawd a phedair chwaer yn y cartref ym Mhlas Glynllifon. Gyda thiroedd ym Mon yn ogystal â Sir Gaernarfon, fe'i godwyd yn Uchel Siryf yn y ddwy sir, Sir Gaernarfon ym 1622 a Môn y flwyddyn ganlynol - roedd hi'n arfer y pryd hynny i gydnabod pwysigrwydd meibion hynaf y prif deuluoedd sirol cyn gynted ag y daethant i'w hetifeddiaeth ac roedd Syr William wedi marw ym 1620.
Mae'r hanesydd Yr Athro Glyn Roberts wedi ei ddisgrifio fel "dyn heb unrhyw rinweddau a safai allan",[1] ac i raddau, yn y maes sirol a gwleidyddol yr oedd hyn yn wir. Cafodd ei ethol (oherwydd ei dras a maint ei diroedd, mae'n debyg) yn aelod seneddol ym 1624 ac eto ar gyfer y Senedd Fer (1640) a'r Senedd Hir (1640-1648). Er ei fod yn frenhinwr ar ddechrau'r ymrafael rhwng y Goron a'r Piwritaniaid, gwelodd sut yr oedd y gwynt yn chwytu ac fe newidiodd ei deyurngarwch i fod yn gefnogwr disylw o achos Plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartref. Bron na ellid dweud ei bod yn ollyngdod pan fu farw ym 1648, gan adael gweddw, mab (John Glynn) a merch, Catherine. MI wnaeth briodi'n ddoeth, fodd bynnag, gan sicrhau estyniad sylweddol i Ystad Glynllifon trwy briodi Ellen Owen, cydaeres Bodafon-y-Glyn, Llanfwrog, Ynys Môn.[2]
Er nad oedd yn ddyn cyhoeddus, fodd bynnag, fe wnaeth farc sylweddol mewn maes arall, gan ei fod yn un o fotanegwyr cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Ato fo y trodd y botanegwr o fri, Thomas Johnson, ar ei daith trwy Gymru, am ganfod rhai o blanhigion prin yr ardal. Arhosodd Johnson ym Mhlas Glynllifon am rai dyddiau, ac aeth Thomas Glynn gydag ef ar ei deithiau i chwilio am blanhigion lleol Eryri. Mae'n bur debyg heddiw mai Thomas Glynn ddechreuodd y traddodiad o arddio ar raddfa fawr o gwmpas y plas.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma