John Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:39, 16 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd John Glynn, yr olaf o sgweiriaid Ystad Glynllifon i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig blentyn i Thomas Glynn (AS a botanegydd) o gwmpas y flwyddyn 1644, a chafodd ei fagu gan ei fam wedi i'w dad farw'n weddol ifanc ym 1648 ac o dan warchodaeth ei ewyrth, Edmund Glynn. Etifeddodd yr ystad felly pan nad oedd ond tua phump oed.

Chwareuodd ei ran ym mywyd y sir, gan weithredu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1668-9.