Gyfelog
Mae Gyfelog yn fferm yn ardal Bwlch Derwin o blwyf Clynnog-fawr, nid nepell o hen Ysgol Ynys-yr-arch. Mae Gyfelog ar ochr orllewinol cosrdir a elwir yn Gors Gyfelog, a thrwy'r gors rhed nant a elwid yn y gorffennol yn Afon Efelog. Mae'r enw'n hen iawn, yn dyddio'n ôl o leiaf at ddiwedd y 12g., pan sonnwyd am yr ardal y siartrau Abaty Aberconwy.