R. Hughes Williams (Dic Tryfan)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:54, 25 Medi 2019 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

1878-1919 Hyfrydle, Rhosgadfan oedd ei gartref. Yn fab i chwarelwr,bu yntau yn y chwarel am ychydig. Wedyn bu yn ysgol breifat J. Lewis Jones yng Nghaernarfon ac ar ôl hynny yn glerc yn swyddfa’r Genedl. Bu yn Lloegr am rai blynyddoedd yn dilyn gwahanol orchwylion. Dychwelodd i Gaernarfon tua dechrau’r 20fed ganrif i fod yn is-olygydd yn swyddfa’r Herald Cymraeg. Yn 1913 aeth i Aberystwyth i olygu’r Aberystwyth Observer ac oddi yno, ymhen dwy flynedd, i olygu papur lleol. Bu’n gweithio mewn ffatri cad-ddarpar yn Burry Port adeg y rhyfel mawr; amharwyd ar ei iechyd a dychwelodd i Aberystwyth, y tro hwn yn aelod o staff y Cambrian News. Gwaethygodd ei iechyd a bu farw ac yntau tua 44 mlwydd oed, yn ysbyty Tregaron, 26 Gorffennaf 1919.

  Fe’i hystyrir yn arloeswr y stori fer yn Gymraeg a chyhoeddwyd dau lyfr o’i storïau yn ystod ei fywyd:  Straeon y Chwarel, a Tair Stori Fer (buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1915). Yn 1932 cyhoeddwyd detholiad, Storïau Richard Hughes Williams, gan Hughes a’i Fab, gyda rhagymadrodd gan E. Morgan Humphreys a ddywedodd amdano: “Ni bu’r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni.... rhoddodd ei feddwl ar ei berffeithio ei hun ynddi.” 

Ystyrir Yr Hogyn Drwg

Delwedd:Yr Hogyn Drwg gan Dic Tryfan.pdf

ymhlith ei storiau gorau.

  Mae'r Academi Gymreig wedi gofalu, trwy gronfa, y gofelir am ei fedd am byth.