Y Gurn Ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:15, 9 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gurn Ddu yn fynydd uwchben pentref Gurn Goch. Ar yr ochr agosaf at y môr ceir nifer o hen chwareli ithfaen, er nad oedd yr un mor lewyrchus â chwareli'r Eifl. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, copa uchaf y pum copa Gurn Ddu, Gurn Goch, Bwlch Mawr, Clipuau a Moel Bronmiod. Mae hen bentyrrau o gerrig ar ystys de-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau