Cors y Llyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:02, 2 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cors y Llyn yn ardal o rostir a thir comin rhwng Nebo a Llyn Cwm Dulyn. Dichon fod y gords mor wlyb fel nad yw fawr o ddefnydd ar gyfer pori da byw.

Ceir yno llawer o blanhigion diddorol a phrin y corsdiroedd, megis eurinllys y gors, llugaeron, helyg, peiswellt, tegeiriannau a chyfoeth o fwsoglau a llysiau'r iau gyda 12 rhywogaeth o figwyn. Mae'n cynnal nifer o rywogaethau o adar a thrychfilos sydd hefyd yn prinhau. Cofrestrwyd y gors fel Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol.

Mae darn canolog y gors ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ond mae'r gweddill wedi ei gofrestru fel tir Cyngor Cymuned Llanllyfni.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan nantlle.com, [1], cyrchwyd 2.9.2019