Plas Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:28, 7 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plas Dolydd yw'r adeilad mwyaf ym mhentrefan y Dolydd, ym mhlwyf Lalndwrog. Mae'n hen adeilad, ac mae carreg lechen amrwd yn wal hen feudy ar ochr y lôn ar fuarth Plas Dolydd yn cofnodi iddo gael ei godi ym 1764. Tua'r adeg honno, roedd yn dafarn hefyd, ac mae yna le i gredu fod yno danerdy yn ogystal.

Yn ôl yr hanes yn llyfr William Hobley, tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn Rhostryfan, ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.[1]

Yn ystod ail hanner y 19g, bu Evan Jones, contractor adeiladu sylweddol yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes.

Erbyn heddiw, ffermdy'n unig yw Plas Dolydd.

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150