Harold Parry Jones
Bu Harold Parry Jones yn brifathro Ysgol Gynradd Trefor (Ysgol yr Eifl am ei ddwy flynedd olaf), o 1967 tan 1983.
Brodor o Fethel, Arfon, ydoedd ac roedd yn byw yn Ffordd Llwyndu, Pen-y-groes pan yn brifathro yn Nhrefor.
Roedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Annibynwyr ac wedi iddo ymdddeol cafodd ei ordeinio'n swyddogol yn weinidog gan yr enwad. Ni sefydlwyd ef yn weinidog ar unrhyw eglwys na gofalaeth benodol. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma