Morris William Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:36, 2 Gorffennaf 2019 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Prifathro Ysgol Trefor o 1928 tan 1946 oedd Morris William Jones.

Fe'i ganwyd yn Nhan-rallt ger Llanllyfni ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll Dorothea, y chwarel lechi fawr yn Nyffryn Nantlle. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn ysgol Llanllyfni ac yn Ysgol Ganolraddol Pen-y-groes, ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Benrhynside ger Llandudno, ac yna i ysgol yr Higher Grade yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro ysgol Ynys yr Arch, Pant-glas.

Priododd ag athrawes o Dal-y-sarn, Esther Parry, Hafodlas Uchaf, yr hon a fu farw ym 1972. Cawsant ddau o blant sef Dr.Meira Pritchard, Pen-y-groes a Dr. Elwyn Jones, Gwalchmai, Ynys Môn. Ym 1930 enillodd radd B.Sc. (allanol) dan Brifysgol Llundain. Bu'n ysgolfeistr ysgol Trefor o fis Medi 1928 hyd ei farwolaeth o'r cancr yn anterth ei ddyddiau ar y 30ain o Fehefin 1946. Fe'i claddwyd ym mynwent Tai Duon, Pant-glas, yn ôl ei ddymuniad.

Bu'n flaenor a thrysorydd yng Nghapel Gosen (M.C.) ac ar ei ddyfodiad i Drefor penderfynodd ddysgu chwarae'r corned a dod yn aelod o Seindorf Arian Trefor. Bu hefyd yn arwain Côr Plant Trefor yn llwyddiannus am flynyddoedd. [1]

  1. Geraint Jones 'Rhen Sgŵl 1978