B.O. Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:52, 25 Mehefin 2019 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Prifathro ysgol Trefor o 1883 hyd 1913 oedd Benjamin Owen Jones, a daeth yn adnabyddus i gylch eang fel un o brifathrawon hen drefn y gansen a'r cosbi llym. Fe'i ganwyd yn Chwefror 1848 yn un o efeilliaid Owen ac Elizabeth Jones, Bethesda, y tad yn deiliwr ran crefft ac yn Galfinydd pybyr. Addysgwyd Benjamin yn un o ysgolion Arglwydd Penrhyn sef Ysgol y Bechgyn, Tyntŵr Bethesda (addysg eglwysig, wrth gwrs) o 1853 ymlaen a bu'n ddisgybl-athro yno 1862-66 cyn mynd i Goleg Hyfforddi Caernarfon am ddwy flynedd. Ei swydd gyntaf fel athro oedd yn nhref Abergele, ac yna'n y Tyddyn, a thymor yn Leeswood, Sir y Fflint. Cyfnod pellach wedyn yng Nghwmdeuddwr, Sir Faesyfed ac yna fel dirprwy brifathro ysgol eglwysig ym Manceinion. Dychwelodd i Gymru ym 1871 ac i Ddolgellau, cyn cael ei benodi'n brifathro ysgol Penrhoslligwy yn Sir Fôn. Daeth yn brifathro ysgol Dwyran, Môn ym 1878. Yno, bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn clamp o ffrae ynglŷn â'i gyflog, rhoddodd rybudd i ymadael. Fe'i penodwyd yn brifathro ysgol y Cwmni Ithfaen Cymreig yn Nhrefor, Arfon, ddiwedd haf 1883, lle yr arhosodd hyd ei ymddeoliad 30 mlynedd yn diweddarach, yn 65 oed, yn Chwefror 1913.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma<ref>'Rhen Sgŵl (Braslun o Hanes Addysg Gynnar Plwyf Llanaelhaearn ac Ysgol Trefor 1978 gan Geraint Jones) </ref