Capel Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:11, 13 Mai 2019 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Beuno yw enw'r capel bach ar ochr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Enw arall ar yr adeilad yw Eglwys y Bedd, gan mai yno y tybir oedd bedd Beuno. Eir at y capel o'r prif adeilad trwy glwystyr neu goridor sydd yn ymddangosiadol bur hynafol oherwydd y gwaith corbelu yn y to (sef to wedi ei wneud o gerrig hirsgwar, pob un ychydig yn nes at y canol na'r un o dani). Gwelir gwaith cyffelyb mewn hen gelloedd y saint. Dichon, fodd bynnag, fod y cyswllt hwn rhwng y ddau adeilad wedi ei adeiladu ar ôl codi'r prif adeiladau, yn ystod y 17g.[1] Enw'r adeilad hynod hwn erbyn hyn yw'r Rheinws - sef man i gloi troseddwyr i mewn - ac fe ddefnyddid fel hyn yn y 18g.

I droi at y capel ei hun, mae'n sefyll uwchben seiliau cell neu gapel lle (yn ôl traddodiad) fe gladdwyd Sant Beuno, a gwelir amlinelliad o'r hen gell dybiedig yn y llawr modern (1913), wedi ei farcio gan slabiau tywyllwch eu lliw. Roedd yr hen gapel yn sefyll, yn ôl John Leland, mor ddiweddar â 1536.

Yng nghanol y capel, hyd ddiwedd y 18g, yr oedd yr hyn a gyfrifid yn fedd Beuno, tua 3' o uchder, yng nghanol y llawr. Dyma, heb os, oedd y prif atyniad a ddenai pererinion i'r llecyn dros y canrifoedd. Yr oedd cred y gellid gwella o nifer o afiechydon wrth ymdrochi yn Ffynnon Beuno gerllaw cyn orwedd dros nos ar ben y bedd.

Tua 1793 trefnodd Arglwydd Newborough i'r bedd gael ei agor i chwilio am arch Beuno, ond ni chafwyd hyd i ddim byd.

Wedi hynny, roedd y capel yn cael ei ddefnyddio gan Eben Fardd ar gyfer yr ysgol eglwysig a gadwai ar gyfer y pentref, rhwng 1827 a 1849.[2]


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.II, (Llundain, 1960), tt.37, 39
  2. R.D. Roberts, Clynnog: Its Saint and Church (taflen a werthwyd yn yr Eglwys yn y 1950au-60au)