Edmund Price

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:33, 30 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Edmwnd Prys yn ficer Clynnog Fawr. Fe'i benodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693.[1] Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Ei wraig oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1795, ac yr oedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw 10 Chwefror 1718/19. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.[2]).

Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.[3] Fe'i atgynhyrchir isod, wedi ei gopïo o'r gwreiddiol gan y Parch, Ddr, Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.[4]

Nodyn:Eginyn - i'w barhau

Cyfeiriadau

  1. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor During Three Centuries, (Caerdydd, 1929), t.13
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.361.
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20
  4. Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.