Edmund Price
Roedd Edmwnd Prys yn ficer Clynnog Fawr Fe'i benodwyd yn ficer Clynnog Fwr 10 Mai 1692 neu 1693.[1] Ei wraig oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1795, ac yr oedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw 10 Chwefror 1718/19. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.[2]).
Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.[3] Fe'i atgynhyrchir isod, wedi ei gopïo o'r gwreiddiol gan y Parch, Ddr, Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor During Three Centuries, (Caerdydd, 1929), t.13
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.361.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20
- ↑ Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.