Chwarel Cefn Graeanog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:10, 20 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Chwarel Cefn Graeanog yn chwarel cerrig bach a gro a sefydlwyd i godi agregau ar gyfer y gwaith o godi gwaith trydan pympio dŵr yn Ninorwig ddiwedd y 1970au. Aethpwyd ati i godi'r agregau o gefnen o dir i'r gorllewin o briffordd yr A487, nid nepell o bentref Pant-glas. Yn ogystal â'r ffaith fod yr agregau'n hawdd i'w codi yno, trwy gymryd haen trwchus o'r gwaddodion o Oes yr Iâ sydd ar y safle, roedd hen drac rheilffordd gerllaw y gellid ei thario i ffurfio lôn breifat ar gyfer y miloedd o deithiau lori - hyd heddiw, gelwir y lôn honno'n "Lôn Loris" gan bobl leol er i'r lôn droi'n llwybr cerdded a seiclo ers blynyddoedd, sef Lôn Eifion. Gofennodd lorïau ei defnyddio wedi i waith Dinorwig gael ei gwblhau.

Y dull o weithio'r chwarel oedd cymryd wyneb y tir i ffwrdd, cloddio'r agregau,ac wedyn ailosod y pridd a dychwelyd y tir i ddefnydd amaethyddol i raddau helaeth.