Clwt-y-foty

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:52, 17 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ôl pob sôn, roedd Clwt-y-foty yn gae ger fferm Bryn'rodyn rhwng Y Groeslon a'r Dolydd lle aeth dynion ynghyd ar y Sul i chwarae pêl droed cyn bod effaith y Diwygiad Methodistaidd a dylanwad yr ysgolion Sul wedi cydio yn y rhan fwyaf o'r boblogaeth. Sôn felly yr ydym am gyfnod tua diwedd y 18g ac efgallai dechrau'r 19g., cyn bod sôn am bentrefi neu ganolfannau mwy hygyrch.[1]

Dichon fod yFoty y sonnir amdano oedd Hafod Ifan, sydd y tu ôl i gapel Bryn'rodyn ar y lôn i dreflan Maestryfan.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.102