Robert Williams Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:40, 14 Mai 2019 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Robert Williams Parry (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er iddo ond yn cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Thomas Parry a Syr T.H. Parry-Williams - reodd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni ym Madog View, tŷ ym mhentref Tal-y-sarn, lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd.

Gyrfa

Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a Phen-y-groes cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio, gan sicrhau swydd fel athro. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion Cefnddwysarn a Sarn (Pen Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn ddychwelyd i'r Barri, 1918. Ym 1921 fe'i benodwyd yn ddarlithydd rhwng yr Adran Gymraeg a'r Adran Allanol yng Ngholeg Bangor.

Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond yr oedd yr Athro, Syr Ifor Williams, yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn oedd gan RWP yn ddigon academaidd. Dilynodd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.[1]

Gwaith llenyddol

Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd cryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.

Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau ond ysgubol o farddoniaeth, Yr Haf a Cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1956). Yn y cyntaf o'r rhain ceir Mae Hiraeth yn y Môr ac Englynion Coffa Hedd Wyn; yn yr ail ceir cerddi megis Eifionydd, Y Ddôl a aeth o'r golwg (Dol Pebin), Cymru 1937 a'r englyn Neuadd Goffa Mynytho. Cyhoeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [1]