Robert Williams Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:07, 13 Mai 2019 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Robert Williams Parry (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er iddo ond yn cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Thomas Parry a Syr T.H. Parry-Williams - reodd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni ym mhentref Tal-y-sarn, lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd.

Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a Phen-y-groes cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio, gan sicrhau swydd fel athro. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion Cefnddwysarn a Sarn (Pen Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn ddychwelyd i'r Barri, 1918. Ym 1921 fe'i benodwyd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Bangor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau