Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough
Etifeddodd Spencer Bulkeley Wynn deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd Thomas John ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n chwarae rôl fel rheolwr Ystad Glynllifon tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi gadwodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd o bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.
Ail fab Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough ac ail wraig hwnnw, Maria Stella Petronella Chiappini oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas trwy briodas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812[1]