Pont y Crychddwr
Mae Pont y Crychddwr yn croesi Afon Crychddwr ychydig i'r de o bentref Llanllyfni a mynwent y pentref hwnnw.[1] Mae'n cario'r hen lôn dyrpeg a fu wedyn yn briffordd yr A487 nes godi ffordd osgoi tua 2000. Mae'r bont hefyd yn rhoi ei henw i res fach o fythynnod ger y bont.
Roedd pont dros yr afon am flynyddoedd cyn 1735, pan gytunodd yr ynadon yn y Llys Chwarter i dalu hyd at £10 am ei thrwsio. James Watkin, saer maen o blwyf Llannor oedd y contractor.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma