Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:22, 2 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Thomas Wynn o Lynllifon a Boduan (1736-1807) yn fab i Syr John Wynn, yr 2il Farwnig a Jane Wynne ei wraig, merch John Wynne o Felai, Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych. Etifeddodd y teitl Syr a'r farwnigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1773. Roedd yn wleidydd ac yn aelod seneddol hynod o deyngar (os nad yn wir yn gwbl gynffonllyd) i'r Brenin Sior III, ac mae yna le i ddadlau mai ceisio sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac efallai swydd fras o dan y Goron oedd ei nod yn ei holl waith gwleidyddol. Bu'n aelod seneddol dros Sir Gaernarfon, 1761-74; dros St Ives, 1775-80; a dros Biwmares, 1796-1807. Roedd ei hanes diweddarach, fodd bynnag, yn creu embaras i ddiplomyddion yr yr Eidal a rhwygau teuluol.[1]

Ym 1766, fe briododd â Catherine Perceval, merch 2il Iarll Egmont. Cafwyd un plentyn, John (1772-1800) a fyddai wedi etifeddu'r teitl. Fe briododd hwnnw â Lena Vanderkeen o'r Hâg yn ys Iseldiroedd.[2]

Er fod ystadau Glynllifon a Boduan, ynghyd ag ystadau Melai a Maenan a etifeddwyd gan Thomas Wynn o ochr ei fam, yn dod ag incwm sylweddol, nid oeddent yn ddigonol i gynnal ffordd Thomas o fyw. Buddsoddodd arian mewn codi Caer Williamsburg ar dir Glynllifon a Chaer Belan fel rhan o'i weithgaredd fel Cyrnol Militisia'r Sir - a dichon hefyd fel ffordd o geisio cymeradwyaeth y Brenin.

Erbyn y 1780au, ac wedi colli ei wraig gyntaf ym 1782, roedd yr hwch wedi mynd trwy'r siop, ac er mwyn osgoi erlyniaeth ei gredydwyr, fe ddihangodd gyda'i fab i'r Eidal, lle cafodd hyd i ail wraig a ymddangosodd i bawb yn hynod o anaddas i "meilord" 50 oed; Maria Stella Petronella Chiappini, cantores ifanc a merch ceidwad carchar o Modigliana ger Fflorens oedd y wraig newydd, nad oedd hi ond tua 13 oed. Ceisiodd ei thad odro Thomas Wynn am arian, gan hyd yn oed sicrhau iddo gael ei garcharu pan geisiodd ymadael â Fflorens ym 1792. Perthynas oeraidd oedd rhyngddynt, mae'n debyg, ac arswydodd y teulu, a dosbarth crachaidd yn Lloegr a Chymru yn gyffredinol, at ei ddewis, ond pan ddychwelodd y cwpl adref i Glynllifon ym 1792 fe gymerodd y werin ati'n syth. Cafwyd dau fab i'r cwpl, wedi i John Wynn, etifedd yr ystad a'r teitl, farw ym 1800, sef Thomas John a Spencer Bulkeley.

Marwodd 12 Hydref 1807, gan adael nifer o achosion cyfreithiol drudfawr heb eu datrys. Ailbriododd Maria Stella ag uchelwr o Estonia, y Barwn Ungern Steinberg, gan adael y ddau fab ifanc yng ngofal gwarcheidwaid ac ymddiriedolwyr o'r teulu, nes i Thomas John ddod i'w etifeddiaeth wrth gyrraedd yr oedran 21 oed.[3]


Cyfeiriadau

  1. "Wynn, Thomas (1736-1807), of Glynnllivon, Caern.", (The History of Parliament: the House of Commons 1754-1790, gol.. L. Namier, J. Brooke., 1964) ar gael ar lein: [1]
  2. Ail-briododd Lena â Dr Werninck ac mae nifer helaeth o lythyrau gan aelodau o deulu Werninck, o Lundain a'r cyffiniau'n bennaf, ymysg y llythyrau a dderbyniwyd gan y 3ydd Arglwydd Newborough. Archifdy Gwynedd, XD2/passim.
  3. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffeithiau ar gyfer yr erthygl hon yn ei ffurf wreiddiol yn dod o J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3; Syr Ralph Payne-Gallway, The Mystery of Maria Stella, Lady Newborough, (Llundain, 1907); a Glyn Roberts, "The Glynnes and the Wynns of Glynllifon", (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.9), tt.25-40.