Morys Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:46, 1 Tachwedd 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Diwinydd Cristnogol oedd Morys Clynnog (c.1523-1581).

Deuai’r diwinydd o Glynnog, ac aeth ymlaen i Goleg Crist, Rhydychen a graddio gyda B.C.L. yn 1548. Dyrchafwyd ef yn Esgob Bangor yn 1558, yn dilyn marwolaeth Dr. William Glyn. O dan drefn newydd Elisabeth 1af, alltudiwyd ef i Rufain tua 1578, a daeth yn reithor yn y Coleg Seisnig newydd yno. Gorchmynnwyd iddo adael ei rôl flwyddyn yn ddiweddarach, dan bwysau gan yr aelodau Jeswitiaid. Bu iddo farw yn 1581 tra roedd yn teithio i Sbaen.

Cyhoeddodd lyfr catecism, sef ‘Athraviaeth Gristnogol’.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig, Y Llyfrgell Genedlaethol