Syr Arthur Acland

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:58, 28 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Arthur Acland, AS

Roedd Arthur Acland yn wleidydd Rhyddfrydol, ac yn aelod seneddol dros Rotherham yng Ngogledd Lloegr. Roedd yn digwydd bod yn berchennog ar dir ym mhlwyf Clynnog Fawr, a chymerodd diddordeb mawr felly mewn gwleidyddiaeth Cymru, ac yng ngyrfa gynnar David Lloyd George, gan annerch cyfarfodydd sawl gwaith yn ystod ymgyrch etholiadol gyntaf Lloyd George ym mis Ebrill 1890 pan safodd am etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon. Fel Lloyd George ei hun, cafodd Acland ei ddewis yn henadur ar y Cyngor Sir Gaernarfon newydd, a pharhaodd â'i ddiddordeb ym mywyd gwleidyddol yr ardal.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J. Graham Jones, "Lloyd George and the Carnarvon Boroughs, 1890-95", (Journal of Liberal History, Cyf. 24, Gwanwyn 2014), t.30, ar gael yma [1]