George Bowness

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:45, 9 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd George Bowness (1815-1896) yn fab i Thomas Bowness, ffarmwr o Orton yn Westmorland (ardal lle ceir chwareli llechi). Roedd wedi mudo i Dyffryn Nantlle erbyn 1846, gan fyw yn Nhal-y-sarn, pan briododd Catherine (1815-1902), a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen yn eglwys y plwyf hwnnw; merch ydoedd i Owen Ellis, gŵr bonheddig o Hen Gefnfaes.[1]

Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i Chwarel Tal-y-sarn ym 1850 a 1853.[2] Adeg Cyfrifriad 1851, nodir ei fod yn arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym Mhlas Tal-y-sarn. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y forwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.[3]

Ym 1857, roedd yn dal yn asiant i Chwarel Tal-y-sarn pan ddarllenwyd y Ddeddf Derfysg gan ynad heddwch ar y Cei yng Nghaernarfon oherwydd anhrefn a achoswyd gan ffrwgwd dros berchnogaeth llechi o'r chwarel. Fe'i gwysiwyd i ymddangos yn y llys ond cafwyd nad oedd wedi torri unrhyw ddeddf.[4]

Erbyn Cyfrifiad 1861 roedd wedi gadael gwaith y chwareli, gan ffermio Tanybryn, plwyf Llanllyfni. Roedd yn fferm fawr 146 o aceri o faint, a chyflogwyd 3 o weision, sef morwyn llaethdy, cowmon a chertmon. Nid oes sôn a, ei fab George (dichon ei fod wedi marw) ond yn ychwanegol roedd Thomas Owen (9 oed) a Leonard Henry (7 oed).[5] Roedd yn dal i ffermio Tanybryn ym 1891; roedd ei wraig yn dal yn fyw, a Barbara a Leonard yn dal i helpu ar y fferm. Diddorol yw sylwi ei fod (erbyn hynny o leiaf) yn ddwyieithog.[6] Wedi ei farwolaeth ym 1896, cymerodd Leonard y fferm drosodd.[7]


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau Llanllechid
  2. Gwefan Carnarvon Traders, (cyrchwyd 9.4.2019), [1]
  3. Cyfrifiad Llandwrog 1851
  4. North Wales Chronicle, 17.1.1857
  5. Cyfrifiad Llanllyfni 1861
  6. Cyfrifiad Llanllyfni 1891
  7. Cyfrifiad Llanllyfni 1901