George Bowness

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:16, 9 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hanai George Bowness (1815-) o Orton yn Westmorland (ardal lle ceir chwareli llechi). Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i Chwarel Tal-y-sarn ym 1850 a 1853.[1] Erbyn adeg Cyfrifriad 1851, roedd wedi mudo i Dyffryn Nantlle lle weithiai fel arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym Mhlas Tal-y-sarn. Roedd wedi priodi dynes o Sir Gaernarfon, Catherine, a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y forwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.[2]

Ym 1857, roedd yn dal yn asiant i Chwarel Tal-y-sarn pan ddarllenwyd y Ddeddf derfysg gan ynad heddwch ar y Cei yng Nghaernarfon oherwydd anhrefn a achoswyd gan ffrwgwd dros berchnogaeth llechi o'r chwarel. Fe'i gwyswyd i ymddangos yn y llys ond cafwyd nad oedd wedi torri unrhyw ddeddf.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Carnarvon Traders, (cyrchwyd 9.4.2019), [1]
  2. Cyfrifiad Llandwrog 1851
  3. North Wales Chronicle, 17.1.1857