George Bettiss

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:11, 7 Ebrill 2019 gan 92.3.11.213 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd George Bettiss yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Bu'n tenant ar un adeg ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon, un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal.

Mae cyfeiriad at un "George Bettiss" fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu victualler).[1] Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804[2] a dichon felly mae ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (gent.), sef rhywun oedd tipyn yn well na thafarnwr cyffredin yn parhau o'r amser honno.[3] Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth qwesty o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.[4]

Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i Ystad Glynllifon a'r Arglwyddi Newborough,yn prynu nwyddau, ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.[5]Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau Glynllifon yn Archifdy Gwynedd.[6]

Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, Chwarel Hafodlas o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu Rheilffordd Nantlle, ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.[7] Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.[8]

Bu farw cyn 1839, pan y cyfeiriwyd ato fel 'y diuweddar Mr Bettiss'.[9]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/6924
  3. e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516
  4. Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/15158
  6. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.
  7. G.H. Williams, Swn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018).
  8. Archifdy Caernarfon, XM/9309/4
  9. Archifdy Caernarfon XD2/9932