Capel Gosen (A), Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:53, 25 Mawrth 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Capel Gosen, 2018, wedi ei werthu

Capel Annibynnol ym mhentref Y Groeslon yw’r Capel Gosen.

Cychwynnwyd yr achos gan David Griffith, Foel, ym 1843, a rhentodd dŷ, sef Tai Newyddion (a elwid wedyn yn Gasgin) yn Rhosnennan fel man addoli, ond ymfudodd i America ym 1845. Roedd George Rhydero wedyn yn gefnogol iawn. Cafwyd rhodd o dir gan un Catherine Hughes, Grugan Wen, a chodwyd capel a enwyd Gosen ym 1849. Nid y capel presennol oedd hwnnw, fodd bynnag, ond yr adeilad a alwyd wedyn yn Gosen Bach neu Church Room (gan i'r Eglwys ei ddefnyddio fel man cyfarfod ger y Ficerdy. Nid oedd erioed yn achos cryf yn ôl pob sôn, ond trwy ei gysylltu â chapel arall, Capel Pisgah (A), Carmel, ym 1873, fe sicrhawyd gwasanaeth gweinidog.[1]

Adeiladwyd capel newydd yn nes i ganol pentref y Groeslon ym 1899, gan Griffith Roberts, adeiladydd o Ben-y-groes, ac erbyn hynny roedd yr aelodaeth wedi codi i 65. Ym 1907, cafwyd gweinidog ar Gosen yn unig, sef y Parch. W. Jones, Llansamlet ac fe'i ddilynwyd gan y Parch. W. Walters, Rhosneigr o 1913-21. Ar ôl hynny, nid oedd gan yr eglwys weinidog.

Cafwyd trafferth i glirio'r dyledion wedi codi'r ail gapel a chael digon o arian at alwadau newydd ac felly, o 1931 ymlaen cynhaliwyd Prawfgyngerdd yr Ieuainc yn flynyddol i godi arian, a hynny hyd at y 1960au cynnar, oedfd yn un o ddigwyddiadau sefydlog yng nghalendr diwylliannol y pentref.[2].

Gwerthwyd y capel yn 2018, gan nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio ar gyfer oedfaon. Roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn Neuadd Goffa'r Groeslon ers rhai blynyddoedd erbyn hynny, ond mae'r achos yn parhau, yr unig achos crefyddol sydd ar ôl yn y Groeslon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4
  2. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), tt.52-4