Roger Hopkins

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:48, 8 Mawrth 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Peiriannydd sifil oedd Roger Hopkins (1775-1847), a hanai o Langyfelach ger Abertawe. Roedd ei dad, Evan Hopkins yntau'n beiriannydd sifil yn gweithio ar brosiectau ym maes glo'r de, ac yn arbennig ym maes adeiladu camlesi. Cafodd brofiad efo gwaith ei dad, mae'n debyg, cyn fentro ar ei liwt ei hun. Bu'n gysylltiedig â Thramffordd Pen-y-darren pan oedd Trevithick yn rhedeg yr injan stêm gyntaf ar gledrau, a chafodd sawl gontract i adeiladu rheilffyrdd cynnar yn ne Cymru, gan gynnwys Rheilffordd Trefynwy. Symudodd i Ddyfnaint wedyn, lle gafodd nifer o gontractau tebyg, gan gynnwys gweithio fel y peiriannydd cynorthwyol ar Reilffordd Plymouth a Dartmoor yn nechrau'r 1820au, gan orfod sicrhau i'r ddeddf angenrheidiol fynd trwy'r Senedd yn llwyddiannus. Roedd ganddo waith glo yng Ngwauncaegurwen hefyd, ond bu'n byw ym Mlymouth gydol yr amser hyn. Ym 1842, symudodd i dde Ffrainc, ond dychwelodd i Loegr cyn marw yn nhŷ ei fab, Rice, yn Llundain ym 1847.

Priododd ym 1806 â Mary Harris, merch y Parch R. Harris o Bwllheli, gweinidog efo'r Bedyddwyr. Dyna'r cysylltiad â Gogledd Cymru, efallai, afwriodd iddo gael ei ddewis fel ymgynghorydd cyntaf cwmni Rheilffordd Nantlle.