William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:40, 11 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren) ym Mrynhafod, Clynnog Fawr ym 1788. Bu farw ym 1838. Disgrifodd Eben Fardd o fel sgolar ardderchog, bardd a cherddor gwych. Cafodd ei enw farddol o'i ardal fabwysiedig, gan iddo symud i Sir Drefaldwyn tua 1815 i gadw ysgol yn y Trallwng, ac wedyn yn y Drenewydd lle y bu farw. Bu'n bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ymddiddorodd mewn emynau a dulliau canu cynulleidfaol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein, [1]