Pont Sarn Wyth-dŵr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:49, 6 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Pont Sarn Wyth-dŵr ger Chwarel Tal-y-sarn, plwyf Llandwrog, ar y ffordd heibio Petris a Phlas Dorothea ar y ffordd a arferai redeg o'r hen ffordd trwy'r dyffryn (ger Plas Tal-y-sarn) am Dan'rallt. Fe ail-adeiladwyd hi ym 1855 ar draws yr Afon Llyfnwy, mewn ymateb efallai i lythyr Roedd un prif fwa a saith sianel lai. Defnyddiodd yr ymgymerwr wâst o’r chwareli lleol i codi a chryfhau’r sarn. John Prichard, Brynhyfryd, plwyf Llanbeblig oedd yr ymgymerwr ym 1855 ac fe gytunodd i wneud y gwaith a gwneud gwaith cynnal a chadw arni am saith mlynedd am y gost o £70.[1]

Fe elwir y bont weithiau ar fapiau'n Bont Wythdir.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/20
  2. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir (gol. 1af, 1888).