Aliortus

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:54, 23 Hydref 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gweler yma am Carreg Aliortus

Ni wyddys llawer am hanes Aliortus, ond credir ei fod wedi byw yn ardal Llanaelhaearn yn y 7fed ganrif. Darganfuwyd carreg mewn cae gyferbyn â Eglwys Llanaelhaearn yn 1865, gyda ysgrif Lladin ar ei hyd. Ceir y cyfieithiad yma o’r ysgrifen, “Yma y gorweddai Aliortus, dyn o Elmet”. Awgrymai hyn fod Aliortus wedi mudo i’r cwmwd o Elmet, sef hen deyrnas o gwmpas Swydd Efrog yng Ngogledd Lloegr. Awgrymai’r darganfyddiad yma fod mewnfudwyr yn yr ardal cyn belled a’r 6ed neu 7fed ganrif.