R. L. Gapper

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:30, 29 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Robert Lambert Gapper 1896-1984, Llanaelhaearn ac Aberystwyth. Arlunydd medrus oedd RL Gapper ond yn fwy arbennig o lawer roedd o hefyd yn gerflunydd o fri cenedlaethol. Fe'i magwyd mewn tŷ moel, Bryn Hyfryd, gyferbyn ag eglwys Llanaelhaearn. Rhannai'r un taid a nain, Henry a Catherine Hughes, Cwm Coryn, Llanaelhaearn, â'i gefnder enwog, Syr David Hughes Parry(1893-1973).Hen daid i RL Gapper oedd yr arlunydd naif y Parch. Robert Hughes, Uwchlaw'r ffynnon Llanaelhaearn.

Gwraig RL Gapper oedd Florence Jones (g.1912), Tŷ'n Coed, Clynnog Fawr, a ganwyd iddynt ddwy ferch, Ann Rhiannon a Catrin (1943-2005),a dau fab, John Huw a Dafydd Robert. Roeddent yn byw ym Meiros, Llanbadarn Fawr, Ceredigion, a gweithiai'r tad yng ngholeg Aberystwyth.

Dyma rai o brif weithiau R L Gapper yng Nghymru:

1. Capel Coffa Llyn Celyn.
2. Giât haearn mynwent Llanuwchllyn.
3. Pulpud coffa y bardd Goronwy Owen yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Sir Fôn.
4. Cerflun Rhyfel dadleuol ' Y Fam a'i Phlentyn ' sydd yn awr yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth.
5. Y Golomen a'r Beibl a fu ar do Capel Seilo, Aberystwyth, (dymchwelwyd y capel hwn).
6. Panel Derw cerfiedig yn eglwys Llangwyryfon, Ceredigion, sy'n portreadu'r pedwar efengylydd fel creaduriaid, a Christ fel hwrdd mynydd Cymreig.
7. Carreg goffa Dafydd ap Gwilym, mewn Cymraeg a Lladin, a welir ar un o furiau abaty Ystrad Fflur.

Fe'i gladdwyd ar bwys eglwys Llanaelhaearn.

Cyfeiriadau

  1. Gŵr Hynod Uwchlawr'rffynnon, gan Geraint Jones, 2008
  2. Ffeil drwchus bersonol wedi ei chasglu gan fab R L Gapper, Dafydd, a'i throsglwyddo i Geraint Jones, Trefor.
  3. O Syr, Mynte Nain allan o Epil Gwiberod yr Iwnion Jac gan Geraint Jones 2009

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma