Maen Coch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:25, 19 Hydref 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Casgliad o dai yw Maen Coch ar yr hen briffordd rhwng Ffingar (Llanwnda) a Dolydd. Yn wreiddiol dim ond un fferm, Cefn Coch, a oedd yma, ond rhwng 1840 a 1900 codwyd fferm Cefn-coch (ar dir hen ddaliad Garth-y-glo), dau dŷ moel a dau fwthyn dan yr un to - y 'Maen Coch' gwreiddiol. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif codwyd dau bâr o dai sylweddol wedyn nes ffurfio cymuned fach.

Ffynonellau

  • Gwefan Llyfgell Genedlaethol Cymru: [1]