Capel Tan'rallt (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Capel Tan'rallt yn 2018. Mae bellach wedi ei droi yn ganolfan weithgareddau awyr agored

Capel Methodistaidd ym mhentref Tanrallt oedd Capel Tan'rallt (MC)[1].

Cefndir

Tua 1850, codwyd barics ar gyfer gweithwyr chwareli Tanrallt a'r ardal yn y pentref a chedwir man addoli ar gyfer Methodistiaid yr ardal yma. Roedd Turell, goruchwyliwr chwarel Tanrallt wedi cytuno i'r addolwyr gadw ysgol yno am flynyddoedd, gyda chôst o ddau swllt y flwyddyn. Yn ôl William Hobley, roedd bobl y pentref wedi cael trafferth wrth geisio cael prydles ar y tiroedd gerllaw ar gyfer adeiladu capel[2].

Erbyn 1882, cafodd y bobl eu dymuniad oddi wrth H. J. Ellis Nanney, pan gytunodd i osod prydles ar lain o dir yno am 80 mlynedd a pum swllt y flwyddyn.

Codi'r Capel

Adeiladwyd y Capel a'r Tŷ yn 1882, gyda chôst o £930. Cynllunydd y Capel oedd John Thomas, Rhostryfan a chyflawnwyd y gwaith adeiladu gan Robert Jones, Bontnewydd.

Agorwyd y Capel ar 28ain Awst, 1882, ac roedd £260 o'r ddyled wedi ei dalu erbyn yr agoriad.

Mae Capel Tanrallt heddiw yn ganolfan weithgareddau awyr agored.

Cyfeiriadau


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Cofnod o'r Capel ar wefan Genuki.org
  2. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 337-340