Ystad Bryncir

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:10, 26 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Canolfan Ystad Bryncir oedd Cwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd, ond roedd yr ystad yn berchen ar diroedd yn ardal Pen-y-groes. Safai Plas Bryncir tua milltir i'r dwyrain o eglwys Dolbenmaen. Mae'r tŵr a welir o'r ffordd fawr yn ffoli a godwyd gan deulu Huddart a oedd y perchnogion olaf i fyw yno. Bu i'r hen deulu (a ddefnyddiai'r cyfenw Brynkir) farw allan ar farwolaeth Thomas Brynkir, ym 1745. Roedd Robert Brynkir, rheithor Braunston yn Swydd Northampton, a fu farw 1691, wedi gwerthu rhan o'r ystad i William Owen o Frogyntyn a Chlenennau, a'r rhan arall i William Wynne, Y Wern (yn cynnwys y plas).[1] Roedd aelodau o deulu Brynkir yn dal i fyw yno wedyn, gan fod yna gofnod o James Brynkir, nai Robert, yno ym 1705 ac ni fu farw tan 1740.[2]

Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystad pan brynodd Ystad Glynllifon ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;[3], a phrynodd Chwarel Dorothea dir cynefin defaid yng Nghwm Silyn.[4] Gwerthwyd mwy o dir yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a ganiatawyd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families, t.251.
  2. Archifdy Caernarfon, XES/5/Friars/20
  3. Archifdy Gwynedd, XD2/6773
  4. Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.
  5. Archifdy Caernarfon, XD40/26/11