Ystad Bryncir

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:47, 26 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Canolfan Ystad Bryncir oedd Cwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd, ond roedd yr ystad yn berchen ar diroedd yn ardal Pen-y-groes. Safai Plas Bryncir tua milltir i'r dwyrain o eglwys Dolbenmaen. Mae'r twr a welir o'r ffordd fawr yn ffoli a godwyd gan deulu Huddart a oedd yn perchnogion yno, wedi i'r hen deulu (a ddefnyddiai'r cyfenw Brynkir) farw allan ar farwolaeth Thomas Brynkir ym 1745.

Ym 1891 fe werthwyd dranau'r ystad yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a ganiatawyd codi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/14457