Foryd Bach
Y Foryd Bach yw'r enw ar yr ardal lle mae aber Afon Gwyrfai. Mae nifer o dai yno gan greu gymuned neu dreflan ar lan Y Foryd neu Harbwr Llanfaglan fel y'i gelwir ar fapiau Ordnans.
Dyma'r lle agosaf y gallai llongau bach a allai gludo lechi gyrraedd i chwareli Dyffryn Nantlle ac felly bu peth cario llechi mewn basgedi ar gefn mulod yma tan ail chwarter y 19g pan agorodd Rheilffordd Nantlle.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
Categori:Pentrefi a threflannau]]
- ↑ W.R. Ambrose, Nant Nantlle,(Peny-groes, 1872), t.75