Bwlchderwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:13, 6 Tachwedd 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ardal wasgaredig yw Bwlchderwin ar ffordd Clynnog Fawr wedi dringo Allt y Pant [1] o Bant-glas. Nid oes yma'r fath beth â chlwstwr o dai ond bu yma gapel yn un pen, ysgol Eglwysig sef Ysgol Ynys-yr-Arch[2] yn y pen arall a siop mewn gwahanol dai ar wahanol adegau.

Rhai murddunod yn yr ardal ym 1870

Felog Bach, Yr Ochr, Tanychwarel, Y Foel, Cae'r Bwlch, Foel Fechan, Murforwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa'r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).[3]

Tai/Tyddynnod/Ffermydd yr ardal o tua 1870-1981

Braich-y-foel; (Cofiai R. Gordon Williams wyth o ddynion yn torri'r ffridd wrth y ffordd gyda phladuriau, y naill yn dilyn y llall gyda'r un rhythm yn eu pldurio, ac yn aros weithiau i roi min ar eu pladuriau gyda'r pren stric a'r saim a'r graean.[4] Tanychwarel; Terfynau; Derwyn Uchaf (Deuai Griffith Powell â'i gi gydag ef i'r Capel bob amser.); Tan'rallt; Plas Du; Ty'n-y-coed; Rhwngyddwyffordd; Muryforwyn; Gyfelog Ucha (ger Capel Bwlchderwin (MC)); Baron Hill; Ty'n-Gors; Ty Newydd; Garreg Wen; Pen Isa'r Mynydd; Ynys-yr-Arch; Llwyngwanadl Ucha; Llwyngwanadl Isa; Ty Glas; Y Gors;Cors-y-wlad. [5]

Yr enw

Ar rai mapiau Ordnans ac mewn ambell i le arall, ceir yr enw "Bwlch Derwydd" ond mae hyn yn anghywir.

i'w barhau

Cyfeiriadau

  1. Fe'i henwir gan R. Gordon Williams yn ei Atgofion Plentyndod, Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, 1983-84.
  2. Atgofion Plentyndod tud.8-16 ac 19-22.
  3. Enwir y rhain (o gofnodion ei dad) yn llyfr O. Roger Owen,O Ben Moel Derwin, Cyhoeddiadau Mei, 1981.
  4. tud.29 O Ben Moel Derwin
  5. Nid yw Gyfelog (ger yr ysgol)ar y rhestr hon. Yma y cartrefai J.R. Owen. Meddai R. Gordon Williams amdano: ...Ato fo yr âi pawb am gyngor neu i lenwi ffurflen ac roedd yn englynwr da iawn. Y fo luniodd yr englyn a gyfrifid yn un o'r englynion cofffa gorau. Englyn ydyw i dri o blant Nant Cwmbran a fu farw yn agos at ei gilydd: Marwolaeth Mair a Willie, - a Rhisiart Wna i reswm dewi, Ond ffydd ddichon fodloni, A gweld trefn mewn galw tri. Bu'n ddiacon ffyddlon ym Mwlchderwin am 67 mlynedd, ac yn gynghorydd gweithgar tros ei ardal am flynyddoedd ar Gyngor Gwyrfai..."