John Robinson, perchennog chwareli

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:10, 29 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed John Robinson yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym Mhlas Tal-y-sarn gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.[1].

Ymddengys iddo ddod o Lundain i Ddyffryn Nantlle, gan gymryd prydles ar Chwarel Fron cyn symud i fod yn un o dri partner yn Chwarel Tal-y-sarn.

Ym 1871, talodd am gael codi Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn.[2]

Dichon iddo ennill iddo fo ei hun yr enw o fod yn deg ac yn elusengar i'r rhai nad oeddynt mor ffodus ag o: er enghraifft, fo oedd prif gyfrannwr plwyfi [[Llandwrog] a Llanllyfni i gronfa i gynnal te parti i blant ysgol y fro a'r henafgwyr tlawd, i ddathlu Jiwbili'r Frenhines.[3] Beth bynnag am rinweddau'r Jiwbili ei hun, roedd achlysuron o'r fath yn fodd o roi ychydig fwyd a gorffwys i anffodusion y gymdeithas, a disgwylid i dirfeddianwyr chwarae eu rhan - y peth diddorol yma yw mai nid teulu Glynllifon oedd ar ben rhestr y rhoddwyr.

Roedd o'n dal i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn ym 1895, ac erbyn hynny roedd wedi ei godi'n ynad heddwch,[4] ac fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1899-1900.[5] Bu farw 1900.[6]

Fe'i olynwyd gan ei fab Thomas, ond bu yntau farw'n fuan wedyn, ym 1905, fel mae'r dyfyniad isod o'r wasg yn tystio[7]:

"MARWOLAETH MR. THOMAS ROBINSON, TALYSARN. GOFIDUS genym groniclo marwolaeth Mr. Thomas Robinson, perchenog:chwarel Talysarn, yn gystal a chwareli llechi eraill yn Nyffryn Nanlile, yr hyn a gymmerodd le yn Talysarn Hall, prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd Mr. Robinson yn 49ain mlwydd oed. Yr oedd yn dioddef o dan afiechyd er's pum mis a bu am dymmor mewn claf-adfe dy yn sir Stafford. Yr oedd ei gyflwr yn cael ei ystyried yn foddhaol hyd prydnawn dydd LIun, pan y daeth yn anymwybodol. Yr oedd yn fab i'r diweddar Mr. John Robinson, yr hwn a fu ar an adeg yn uchel sirydd sir Gaernarfon; ac ar farwolaeth ei dad daeth ef i mewn i berchenogaeth a llywodraethiad yr amrywiol chwareli. Yr oedd yn ddiarebol am ei haelfrydigrwydd a'i hynawsedd. Yr oedd yn gynllun o feistr, hefyd, a dangosai bryder mawr bob amser am sicrhau ymddiriedaeth ei weithwyr, a gochel pob camddealltwriaeth. Ceidwadwr ydoedd o ran el olygiadau gwleidyddol; ond ychydig o ddyddordeb a arddangosai mewn gwleidyddlaeth. Y flwyddyn ddiweddaf cadwodd ei sedd ar y Cynghor Sirol, ac yr oedd yn un o'r ymgeiswyr Ceidwadol a roddodd ei gefnogaeth i'r polisi o ddim cynnorthwy o'r trethi i ysgolion oedd heb fod o dan reolaeth boblogaidd briodol. Yr oedd Mr. Robinson wedi bod yn briod ddwy waith; a gadawodd weddw, a thair o ferched. Yr oedd ei fercoh hynaf i briodi Mr. Addie, goruchwyliwr ystad Glynlllfon, dydd Mercher, y 19eag o'r mis hwn; ond bu raid newid y trefniadau ddydd Llun. Cymmerodd y gladdedlgaeth le prydnawn dydd Gwener." 

Ni ddylid ei gymysgu John Robinson, Plas Tal-y-sarn â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, Tal-y-sarn. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.[8] Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad a'r rhain.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwladol, RG10/5714.
  2. Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [1] cyrchwyd 29.10.201
  3. North Wales Chronicle, 26 Mehefin 1897.
  4. Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru, 1895, t.537.
  5. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [2], cyrchwyd 29.10.2018
  6. Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371
  7. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905
  8. Archifdy Gwladol, RG9/4338.