Chwarel Pen-yr-orsedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:24, 24 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel Pen-yr-orsedd oedd y prif chwarel lechi yn nwyrain Dyffryn Nantlle, uwchben pentref presennol Nantlle. (SH 518538). Roedd yn fan derfyn i lein Rheilffordd Nantlle a hon oedd y chwarel olaf i'w defnyddio ym 1963.

Agorwyd y chwarel yn wreiddiol gan William Turner tua 1816, ac erbyn 1854, John Lloyd Jones oedd y perchennog. Ym 1863, fe'i prynwyd gan W.A. Darbishire a'i gwmni. Er gwaethaf trafferthion i gynhyrchu digon o lechi yn y blynyddoedd cynnar, roedd 7999 tunnell wedi eu cynhyrchu ym 1882, gan 261 o chwarelwyr.