Edward Preston

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:57, 10 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Peiriannydd sifil oedd Edward Preston, ond yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, prydleswr Rheilffordd Nantlle ydoedd.

Ni wyddys llawer amdano cyn iddo ddod i ardal Caernarfon tua 1855/6. Honai ei fod wedi gweithio fel un o'r peirianwyr wrth i Reilffordd Caer a Chaergybi gael ei hadeiladu tua 1848-50, ond methodd yr hanesydd J.I.C. Boyd â darganfod unrhyw brawf o hyn.[1]Mae'n bosibl iddo hanu o Sir y Fflint, ac mae'n bosibl hefyd ei fod â brawd oedd yn fargyfreithiwr yng Nghaer. Pan geir cyfeiriad ato tu allan i gyd-destun rheilffyrdd, fe'i ddisgrifir yn "Esq.", sydd yn tueddu awgrymu ei fod yn perthyn i'r dosbarth tirfeddianwyr, dynion busnes llewyrchus a gŵyr â phroffesiwn. Yn ôl pob tebyg, dyn ifanc ydoedd y pryd hynny, gan fod ei wraig Ellen Maria, wedi ei geni (yn Llundain) ym 1835, a ganwyd eu merch gyntaf, Mary, ym 1855. Roedd ef a'i deulu ifanc yn byw yn y Tower, Treuddyn, ger Yr Wyddgrug ym Mai 1854. Erbyn Gorffennaf 1855 roeddynt yn byw yn Glyn House, Conwy. Symudodd, mae'n debyg, i Glan Helen, Lôn Parc, Caernarfon yn fuan wedyn wrth iddo ymgymryd â phrydles Rheilffordd Nantlle. Fe ddisgrifiodd ei hun fel peirianydd sifil, a bu'n gweithio fel yr is-gontractor i wireddu cynllunio prif beirianwyr Rheilffordd Conwy a Llanrwst, a godwyd tua 1861-3.

Roedd yn weddol hael at achosion eglwysig, gan gyfrannu at gronfa i helpu Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon a sefydlu eglwys ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn nhref Caernarfon, ymysg rhai eraill.[2]

Ym 1856, fel y dywedwyd eisoes, fe gymerodd brydles ar Reilfordd Nantlle, gan sefydlu amserlen i deithwyr ym mis Awst y flwyddyn honno. Ceir nifer o awgrymiadau niwlog cyn hynny fod pobl yn cael teithio ar y rheilffordd ond am y tro cyntaf roedd y trenau hyn yn cael eu hysbysebu (er bod eu rhedeg hwy'n mynd yn groes i'r Ddeddf a awdurdododd adeiladu'r lein ym 1825).

Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon, ac mae'n amlwg mai ei fwriad tymor hir oedd i Reilffordd Nantlle gael ei thraflyncu gan lein arall, sef Rheilffordd Sir Gaernarfon, a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno.

Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Reilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin tua 1870. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai ganddo fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef Alexander Marshall.[3]

Gellid amau mai mynd tramor fu ei gam nesaf. Roedd y cyfnod prysur o godi rheilffyrdd yng Ngymru yn dirwyn i ben, ac roedd un o beirianwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon, Benjamin Piercy, wedi symud ymlaen i ynys Corsica ac wedyn i India. Tybed a ddenodd hwnnw Prston i fynd gydag ef. Beth bynnag am hynny, nid yw Edward Preston na'i deulu (oedd yn cynnwys o leiaf 3 phlentyn erbyn hynny) yn ymddangos yny Cyfrifiadau ar ôl 1861. Mae hyn yn tueddu awgrymu nad oeddynt ym Mhrydain adeg y cyfrifiad nersaf, a gynhaliwyd ym 1871.

Cyfeiriadau

  1. Ysgrifennwch droednodyn fan hyn
  2. Llawer o'r ddau baragraff uchod wedi ei gywaino golofnau cyhoeddiadau'r North Wales Chronicle, a Chyfrifiad 1861 am Gaernarfon.
  3. JIC Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, passim