Alexander Marshall

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:27, 9 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Alexander Marshall yn rheolwr cyffredinol Rheilffordd Nantlle dan Edward Preston, y prydleswr o 1856 ymlaen.[1] Fe adawodd ei swydd, fodd bynnag, ym 1862, gan symud o'r ardal. Mae'n debyg iddo fod yn boblogaidd ymysg y dosbarth busnes yn Nyffryn Nantlle, gan iddynt gynnal cinio ffarwèl iddo yn Nhafarn y Stag, Pen-y-groes, pan dderbyniodd dysteb o gwpan a llwyau arian. Gofidiai'r rhai oedd yno am yr amgylchiadau a'i gorfododd i ymddiswyddo o'i swydd.[2]

Ceir sawl cyfeiriad ato yn y papurau newydd amdano yng nghyd-destun y rheilffordd o Gonwy i Lanrwst oedd yn cael ei hadeiladu, 1861-3.[3] Gan mai Edward Preston oedd yr is-gontractor ar gyfer adeiladu'r lein honno, mae'n debyg iddo fod â pherthynas broffesiynol gyda Preston y tu hwnt i fusnes Rheilffordd Nantlle.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. JIC Boyd Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, tt.29,112.
  2. North Wales Chronicle, 15.11.1862.
  3. North Wales Chronicle, 1861-3, passim.