Alexander Marshall
Roedd Alexander Marshall yn rheolwr cyffredinol Rheilffordd Nantlle dan Edward Preston, y prydleswr o 1856 ymlaen.[1] Fe adawodd ei swydd, fodd bynnag, ym 1862, gan symud o'r ardal. Mae'n debyg iddo fod yn boblogaidd ymysg y dosbarth busnes yn Nyffryn Nantlle, gan iddynt gynnal cinio ffarwèl iddo yn Nhafarn y Stag, Pen-y-groes, pan dderbyniodd dysteb o gwpan a llwyau arian. Gofidiai'r rhai oedd yno am yr amgylchiadau a'i gorfododd i ymddiswyddo o'i swydd.[2]
Ceir sawl cyfeiriad ato yn y papurau newydd amdano yng nghyd-destun y rheilffordd o Gonwy i Lanrwts oedd yn cael ei hadeiladu, 1861-3.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma