Llyn Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:05, 4 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Llyn Cwellyn - geograph.org.uk - 7108.jpg
Llyn Cwellyn.
Delwedd:Natura 2000 - Llynoedd ac Afonydd Prydferth.webmhd.webm
Fideo o rai o'r llynnoedd ac afonydd Cymru, fel Llyn Cwellyn, sy'n cael eu gwarchod a'u rheoli er mwyn diogelu'r bywyd gwyllt sy'n byw yn eu cynefin.

Mae Llyn Cwellyn yn llyn yn Eryri]] sy'n gorwedd rhwng Yr Wyddfa yn y de a Mynydd Mawr yn y gogledd, a rhwng pentrefi Rhyd-ddu a Betws Garmon gerllaw ffordd yrA4085. Er ei fod yn wreiddiol yn llyn naturiol, caiff ei ddefnyddio fel cronfa i gyflenwi dŵr i rannau o Wynedd ac Ynys Môn.

Delwedd:General view, Cwellyn Lake, Wales-LCCN2001703468.jpg
Ffotograff o tua 1890-1900

'

Mae'r llyn yn cael ei rannu rhwng dau berchennog, sef perchennog tŷ Castell Cidwm a Dŵr Cymru.

Mae Llyn Cwellyn yn llyn gweddol fawr gydag arwynebedd o 215 erw (0.87 cilometr sgwar), ac mae dros 120 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf. Mae mapiau Arolwg Ordnans yn dangos dyfnder y dŵr yn y llyn [1]. Mae Afon Gwyrfai yn llifo trwyddo. Adeiladwyd argae yn y rhan ogleddol, ond nid yw hyn wedi ychwanegu rhyw lawer at faint y llyn. Ymhlith y pysgod a geir yn y llyn mae'r Torgoch.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Wicipedia, Erthygl ar Lyn Cwellyn, [2]