Pont Glan-rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:53, 23 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Glan-rhyd yn croesi Afon Rhyd tua chanllath i'r Gogledd o gyffordd ffordd Ffingar ym mhlwyf Llanwnda - wrth gapel Glan-rhyd. Mae'r gefnffordd A487 o Gaernarfon i Borthmadog yn rhedeg drosti. Dichon ei fod yn hanu o gyfnod creu'r ffordd dyrpeg rywbryd ar ôl pasio Deddf Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon (8&9 George III 1768-9), ond cyn 1810 gan fod sôn am ledu ffyrdd o Bont Glan-rhyd trwy Lanllyfni a Garn Dolbenmaen hyd y Traeth Mawr mewn deddf arall a basiwyd y flwyddyn honno.[1] Cyn codi'r bont cafwyd rhyd yma a elwid yn Rhyd-y-dimpan, sy'n cael ei dangos ar rai mapiau cynnar o'r ardal.[2]

Cyfeiriadau

  1. R T Pritchard, The Caernarvonshire Turnpike Trust, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), tt.65-6
  2. Archifdy Caernarfon, XD2A/1643. Mae map efo'r cyfeirnod hwn wedi ei ddyddio'n 1772.