Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)
Ganwyd Alice Gray Jones (1852-1943) yn Llanllyfni, yn ferch i David ac Ellen Jones. Brawd Davidf JOnes oedd y Parch. John Jones, Brynrodyn a'i mam yn gyfnither i John Roberts (Iolo Caernarfon). Cafodd ei hyfforddi'n athrawes yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe, cyn dychweld i'w hen ysgol, Ysgol Dolbadarn, Llanberis, yn brifathrawes. Priododd y Parch, William Jones, Y Ffor, ym 1881.
Wedi iddi briodi a gorfod rhoi gorau i'w swydd oherwydd hynny (fel yr oedd yn ofynnol yr adeg honno), trôdd at lenydda. Bu'n olygydd Y Gymraes, 1896-1919, pan symudodd i fyw i Gricieth. Ysgrifenodd nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Caniadau Ceridwen Peris.
Bu'n un o sylfaenwyr Undeb Dirwest Gogledd Cymru.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymraeg, 1941-1950, (Llundain, 1970), tt.25-6.